1. Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw;)
2. A'r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:
3. Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a'n Harglwydd Iesu Grist;
4. Yr hwn a'i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y'n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a'n Tad ni:
5. I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6. Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:
7. Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist.
8. Eithr pe byddai i ni, neu i angel o'r nef, efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.
9. Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.
10. Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.
11. Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol.
12. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
13. Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a'i hanrheithio hi;