1. Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.
2. Anrhydedda dy dad a'th fam, (yr hwn yw'r gorchymyn cyntaf mewn addewid;)
3. Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear.
4. A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
5. Y gweision, ufuddhewch i'r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist;
6. Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon;
7. Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:
8. Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.
9. A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
10. Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.
11. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
12. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.
13. Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.