Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 3:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi'r Cenhedloedd;

2. Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi:

3. Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau,

4. Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)

5. Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy'r Ysbryd;

6. Y byddai'r Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion, ac yn gyd‐gorff, ac yn gyd‐gyfranogion o'i addewid ef yng Nghrist, trwy'r efengyl:

7. I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.

8. I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;

9. Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

10. Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy'r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 3