Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:4-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.

5. A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn.

6. Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

7. A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.

8. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

10. Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a'u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis.

11. Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a'i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon.

12. Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.

13. A'r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw.

14. Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates.

15. A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o'r dynion.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9