Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o'r nef i'r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.

2. Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.

3. Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau'r ddaear awdurdod.

4. A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.

5. A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn.

6. Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

7. A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.

8. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

10. Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a'u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis.

11. Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a'i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon.

12. Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9