7. Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc.
8. A phan gymerth efe'r llyfr, y pedwar anifail a'r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau'r saint.
9. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl;
10. Ac a'n gwnaethost ni i'n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.
11. Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a'r anifeiliaid, a'r henuriaid: a'u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd;