Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 5:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.

5. Ac un o'r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef.

6. Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a'r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 5