Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 4:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a'r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.

8. A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o'u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod.

9. A phan fyddo'r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,

10. Y mae'r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc, gan ddywedyd,

11. Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 4