Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 22:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y proffwydi, ac i'r rhai sydd yn cadw geiriau'r llyfr hwn. Addola Dduw.

10. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae'r amser yn agos.

11. Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.

12. Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef.

13. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, y cyntaf a'r diwethaf.

14. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy'r pyrth i'r ddinas.

15. Oddi allan y mae'r cŵn, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun-addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd.

16. Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi'r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a'r Seren fore eglur.

17. Ac y mae'r Ysbryd a'r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd â syched arno, deued. A'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.

18. Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn:

19. Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.

20. Yr hwn sydd yn tystiolaethu'r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 22