6. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.
7. Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.
8. A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi'r pethau hyn.
9. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y proffwydi, ac i'r rhai sydd yn cadw geiriau'r llyfr hwn. Addola Dduw.
10. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae'r amser yn agos.
11. Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.
12. Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef.
13. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, y cyntaf a'r diwethaf.
14. Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy'r pyrth i'r ddinas.
15. Oddi allan y mae'r cŵn, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun-addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd.