Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 22:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oen.

2. Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu'r cenhedloedd:

3. A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef,

4. A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a'i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

5. Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 22