Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 21:7-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

8. Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

9. A daeth ataf un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti'r briodasferch, gwraig yr Oen.

10. Ac efe a'm dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi'r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o'r nef oddi wrth Dduw,

11. A gogoniant Duw ganddi: a'i golau hi oedd debyg i faen o'r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;

12. Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.

13. O du'r dwyrain, tri phorth; o du'r gogledd, tri phorth; o du'r deau, tri phorth; o du'r gorllewin, tri phorth.

14. Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

15. A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro'r ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 21