Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan.

10. Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt i'w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.

11. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12. Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd ganddo'r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd;

13. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.

14. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu.

15. Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid, yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu.

16. Edifarha; ac os amgen, yr wyf fi yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau.

17. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18. Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i bres coeth;

19. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na'r rhai cyntaf.

20. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i'r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.

21. Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2