Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.

4. Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â'th gariad cyntaf.

5. Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna'r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, onid edifarhei di.

6. Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu.

7. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.

8. Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r cyntaf a'r diwethaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd;

9. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan.

10. Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt i'w dioddef. Wele, y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.

11. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12. Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd ganddo'r cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd;

13. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wyt yn trigo; sef lle mae gorseddfainc Satan: ac yr wyt yn dal fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, ie, yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.

14. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod, ac i odinebu.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2