Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd;

2. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th lafur, a'th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog:

3. A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.

4. Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â'th gariad cyntaf.

5. Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna'r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, onid edifarhei di.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2