1. Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni:
2. Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
3. Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.
4. A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia.
5. A llef a ddaeth allan o'r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.
6. Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.
7. Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.
8. A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.
9. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.
10. Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.
11. Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.
12. A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:
13. Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.