6. Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi'r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg.
7. Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
8. Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn; a hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.
9. Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi,
10. Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di.
11. A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt:
12. Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor,
13. A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion.
14. A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach.
15. Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru.
16. A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau!