Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 16:15-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.

16. Ac efe a'u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon.

17. A'r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i'r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu.

18. Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr.

19. A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef.

20. A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd.

21. A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o'r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla'r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 16