Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb.

9. A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law,

10. Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen:

11. A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.

12. Yma y mae amynedd y saint: yma y mae'r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu.

13. Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt.

14. Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym.

15. Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear.

16. A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a'r ddaear a fedwyd.

17. Ac angel arall a ddaeth allan o'r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14