Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 13:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Od oes gan neb glust, gwrandawed.

10. Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.

11. Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.

12. A holl allu'r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli'r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.

13. Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear, yng ngolwg dynion;

14. Ac y mae efe yn twyllo'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, trwy'r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear, am iddynt wneuthur delw i'r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.

15. A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw'r bwystfil, fel y llefarai delw'r bwystfil hefyd, ac y parai gael o'r sawl nid addolent ddelw'r bwystfil, eu lladd.

16. Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau:

17. Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw'r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.

18. Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi'r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a'i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 13