Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 13:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd.

2. A'r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorseddfainc, ac awdurdod mawr.

3. Ac mi a welais un o'i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw; a'i friw marwol ef a iachawyd: a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil.

4. A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?

5. A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.

6. Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.

7. A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r saint, a'u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl.

8. A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.

9. Od oes gan neb glust, gwrandawed.

10. Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.

11. Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.

12. A holl allu'r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef, ac yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli'r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 13