Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 2:8-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.

9. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.

10. Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:

11. Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:

12. Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.

13. A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;

14. Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;

15. Gan ysbeilio'r tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

16. Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau:

17. Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.

18. Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun;

19. Ac heb gyfatal y Pen, o'r hwn y mae'r holl gorff, trwy'r cymalau a'r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw.

20. Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau,

21. (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla;

22. Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion?

23. Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni'r cnawd.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 2