Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 2:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;

2. Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;

3. Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.

4. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.

5. Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.

6. Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo;

7. Wedi eich gwreiddio a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis y'ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.

8. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.

9. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.

10. Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:

11. Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:

12. Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a'i cyfododd ef o feirw.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 2