Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:8-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.

9. Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;

10. Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;

11. Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd;

12. Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni:

13. Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab:

14. Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:

15. Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur:

16. Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.

17. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

18. Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw'r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.

19. Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;

20. Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.

21. A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,

22. Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:

23. Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:

24. Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni'r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw'r eglwys:

25. I'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw;

26. Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1