Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:19-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;

20. Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.

21. A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,

22. Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:

23. Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a'r sydd dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:

24. Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni'r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw'r eglwys:

25. I'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw;

26. Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:

27. I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant:

28. Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:

29. Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1