27. Eithr Barnabas a'i cymerodd ef, ac a'i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu.
28. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem.
29. A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
30. A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a'i hanfonasant ef ymaith i Darsus.
31. Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.
32. A bu, a Phedr yn tramwy trwy'r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda.
33. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o'r parlys.
34. A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
35. A phawb a'r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a'i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.
36. Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a'i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi.
37. A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.