Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 5:37-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau'r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd.

38. Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae'r cyngor hwn, neu'r weithred hon, fe a ddiddymir;

39. Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40. A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw'r apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.

41. A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.

42. A beunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 5