Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 5:33-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt.

34. Eithr rhyw Pharisead a'i enw Gamaliel, doctor o'r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru'r apostolion allan dros ennyd fechan;

35. Ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.

36. Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.

37. Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau'r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd.

38. Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid os o ddynion y mae'r cyngor hwn, neu'r weithred hon, fe a ddiddymir;

39. Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40. A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw'r apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 5