1. Eithr rhyw ŵr a'i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,
2. Ac a ddarnguddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr apostolion.
3. Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?
4. Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
5. Ac Ananeias, pan glybu'r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu'r pethau hyn.
6. A'r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.
7. A bu megis ysbaid tair awr, a'i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.
8. A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint.
9. A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
10. Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11. A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu'r pethau hyn.