Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 28:15-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac oddi yno, pan glybu'r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.

16. Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.

17. A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.

18. Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.

19. Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.

20. Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.

21. A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti.

22. Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.

23. Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i'w lety; i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r proffwydi, o'r bore hyd yr hwyr.

24. A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.

25. Ac a hwy yn anghytûn â'i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,

26. Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:

27. Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.

28. Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd; a hwy a wrandawant.

29. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.

30. A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato,

31. Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 28