Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 28:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux.

12. Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau.

13. Ac oddi yno, wedi myned oddi amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli:

14. Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.

15. Ac oddi yno, pan glybu'r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.

16. Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.

17. A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeinwyr.

18. Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.

19. Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.

20. Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.

21. A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 28