1. Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.
2. A'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel.
3. Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o'r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.