6. Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:
7. I'r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.
8. Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?
9. Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.
10. Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o'r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.
11. Ac ym mhob synagog yn fynych mi a'u cosbais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.
12. Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid,
13. Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.
14. Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.
15. Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
16. Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod di yn weinidog ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
17. Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,
18. I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy'r ffydd sydd ynof fi.