25. Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.
26. Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.
27. O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i'r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.
28. Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.
29. A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.
30. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:
31. Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw'r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.
32. Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar.