Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 26:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:

3. Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau a'r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4. Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;

5. Y rhai a'm hadwaenent i o'r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead.

6. Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:

7. I'r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.

8. Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 26