13. Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.
14. Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.
15. Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
16. Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod di yn weinidog ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
17. Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,
18. I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy'r ffydd sydd ynof fi.
19. Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol:
20. Eithr mi a bregethais i'r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.
21. O achos y pethau hyn yr Iddewon a'm daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â'u dwylo eu hun.
22. Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai'r proffwydi a Moses y delent i ben;
23. Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.
24. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.
25. Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.