Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 25:7-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.

8. Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.

9. Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i'r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem, i'th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?

10. A Phaul a ddywedodd, O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu: ni wneuthum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.

11. Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o'r pethau y mae'r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar.

12. Yna Ffestus, wedi ymddiddan â'r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Gesar? at Gesar y cei di fyned.

13. Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus.

14. Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar:

15. Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Jerwsalem, yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.

16. I'r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i'w ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i'w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.

17. Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.

18. Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o'r pethau yr oeddwn i yn tybied:

19. Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.

20. A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe fyned i Jerwsalem, a'i farnu yno am y pethau hyn.

21. Eithr gwedi i Paul apelio i'w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar.

22. Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 25