Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 25:16-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. I'r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i'w ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i'w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.

17. Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.

18. Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o'r pethau yr oeddwn i yn tybied:

19. Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.

20. A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe fyned i Jerwsalem, a'i farnu yno am y pethau hyn.

21. Eithr gwedi i Paul apelio i'w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar.

22. Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory.

23. Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i'r orsedd, â'r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron.

24. A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agripa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi, yn Jerwsalem ac yma, gan lefain na ddylai efe fyw yn hwy.

25. Eithr pan ddeellais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau, ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef.

26. Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i'w ysgrifennu at fy arglwydd. Oherwydd paham mi a'i dygais ef ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O frenin Agripa; fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i'w ysgrifennu.

27. Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 25