Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 25:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ffestus gan hynny, wedi dyfod i'r dalaith, ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea.

2. Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,

3. Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.

4. A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder.

5. Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.

6. A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato.

7. Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.

8. Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.

9. Eithr Ffestus, yn chwennych dangos ffafr i'r Iddewon, a atebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fyny i Jerwsalem, i'th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?

10. A Phaul a ddywedodd, O flaen gorseddfainc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu: ni wneuthum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.

11. Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o'r pethau y mae'r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar.

12. Yna Ffestus, wedi ymddiddan â'r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Gesar? at Gesar y cei di fyned.

13. Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 25