9. A bu llefain mawr: a'r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw.
10. Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y penācapten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r milwyr fyned i waered, a'i gipio ef o'u plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.
11. Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12. A phan aeth hi yn ddydd, rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.
13. Ac yr oedd mwy na deugain o'r rhai a wnaethant y cynghrair hwn.
14. A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.