Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 22:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron.

2. (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,)

3. Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.

4. A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd.

5. Megis ag y mae'r archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i'w cosbi.

6. Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o'r nef ddisgleirio o'm hamgylch.

7. A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid?

8. A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 22