Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 21:31-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg.

32. Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a'r milwyr, a beidiasant â churo Paul.

33. Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai.

34. Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell.

35. A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa.

36. Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef.

37. A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?

38. Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i'r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog?

39. A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.

40. Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 21