Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 21:24-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf.

25. Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra.

26. Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau'r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt.

27. A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,

28. Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma'r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i'r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn.

29. Canys hwy a welsent o'r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r deml.

30. A chynhyrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynasant ef allan o'r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau.

31. Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg.

32. Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a'r milwyr, a beidiasant â churo Paul.

33. Yna y daeth y pen‐capten yn nes, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai.

34. Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell.

35. A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa.

36. Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef.

37. A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen‐capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?

38. Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i'r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog?

39. A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 21