Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 2:34-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,

35. Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.

36. Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.

37. Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?

38. A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân.

39. Canys i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo'r Arglwydd ein Duw ni ato.

40. Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.

41. Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.

42. Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau.

43. Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.

44. A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin;

45. A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 2