Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 2:14-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau:

15. Canys nid yw'r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.

16. Eithr hyn yw'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd Joel;

17. A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion:

18. Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant:

19. A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.

20. Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21. A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.

22. Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:

23. Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:

24. Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.

25. Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 2