Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 19:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac efe a aeth i mewn i'r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

9. Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus.

10. A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.

11. A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul:

12. Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a'r clefydau a ymadawai â hwynt, a'r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.

13. Yna rhai o'r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.

14. Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn.

15. A'r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi?

16. A'r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig.

17. A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.

18. A llawer o'r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.

19. Llawer hefyd o'r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian.

20. Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 19