Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 19:23-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.

24. Canys rhyw un a'i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwyr;

25. Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni:

26. Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i'r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo.

27. Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a'r byd yn ei haddoli.

28. A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana'r Effesiaid.

29. A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i'r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul.

30. A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo.

31. Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i'r orsedd.

32. A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a'r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd.

33. A hwy a dynasant Alexander allan o'r dyrfa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.

34. Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana'r Effesiaid.

35. Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu'r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli'r dduwies fawr Diana, a'r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter?

36. A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll.

37. Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 19