15. A'r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi?
16. A'r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig.
17. A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.
18. A llawer o'r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.
19. Llawer hefyd o'r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian.
20. Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.
21. A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd.
22. Ac wedi anfon i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
23. A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.
24. Canys rhyw un a'i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwyr;
25. Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni:
26. Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i'r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo.
27. Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a'r byd yn ei haddoli.
28. A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana'r Effesiaid.
29. A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i'r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul.