Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 19:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy'r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion,

2. Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân.

3. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 19