Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 19:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy'r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion,

2. Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân.

3. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.

4. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu.

5. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu.

6. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant.

7. A'r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg.

8. Ac efe a aeth i mewn i'r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

9. Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus.

10. A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.

11. A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul:

12. Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a'r clefydau a ymadawai â hwynt, a'r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.

13. Yna rhai o'r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 19